Ysgol Bodfeurig - Dysgu mewn hapusrwydd
ss-1

Gwaith Cartref

Rhoddir gwaith cartref i’r plant ac maent yn mynd â llyfrau darllen adref yn rheolaidd. Gobeithir y bydd y cartref yn cydweithredu ac yn annog y plant i gyflawni eu gwaith.

O dro i dro, bydd gweithgarwch penodol yn gofyn am wybodaeth gan berthnasau, cymdogion a rhieni, neu i’r plentyn gyfweld a gwneud gwaith ymchwil. Sylweddolir mai’r cartref sydd yn gyfrifol am y plentyn yn ystod yr oriau hyn ac mai yng ngoleuni’r cyfrifoldeb hwn y deellir parodrwydd neu amharodrwydd rhieni i gydweithredu.

Yn achlysurol, efallai y bydd athro yn gofyn i blentyn gyflawni gwaith ychwanegol er mwyn dileu gwendid neu ganolbwyntio ar agwedd benodol o waith. Ar adegau o’r fath, gobeithir y bydd y cartref yn cydweithredu’n llawn ac yn annog y plentyn i gyflawni’r gwaith.

Bydd yr ysgol yn ystyried anghenion y plentyn yn ôl ei oedran, ei allu a’i anghenion wrth osod gwaith cartref.

 

Bookmark and Share

Polisi Preifatrwydd

© 2024 Ysgol Bodfeurig ~ Gwefan gan Delwedd