Ysgol Bodfeurig - Dysgu mewn hapusrwydd
ss-1

Rhieni

Mae dewis yr ysgol gywir i’ch plentyn yn holl bwysig. Mae’r rhan fwyaf o rieni am sicrhau addysg dda i’w plant ond maent hefyd am iddynt fod yn hapus a theimlo’n ddiogel. Yn Ysgol Bodfeurig, credwn y gallwn gynnig pob un o’r pethau hyn. Rydym yn ymfalchïo yn yr addysg eang , gytbwys a llawn a ddarparwn yn y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnod Allweddol 2, ac mae safonau uchel yr addysgu a’r dysgu yn dwyn clod i waith caled yr holl  staff a’r disgyblion. Yn yr un modd , rydym yn ymfalchïo yn yr awyrgylch cyfeillgar a chydweithredol sydd bob amser i’w weld.

Mae llawer o ymwelwyr i’r ysgol yn sôn am y croeso cynnes y maent yn ei gael a chwrteisi ac aeddfedrwydd ein disgyblion. Nododd Arolygiad Estyn 2010, ‘Mae’r ysgol yn gymuned gynhaliol a gofalgar ble mae’r dysgwyr yn gwneud cynnydd da iawn ac yn cyflawni safonau da. Mae’r amgylchedd yn hapus a diogel ac mae’r dysgwyr yn awyddus i ddysgu o fewn ethos arbennig iawn. Mae perthnasedd yn dda gyda nodweddion rhagorol ar bob lefel.’

Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad pob disgybl i fywyd yr ysgol ac yn credu y dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn werthfawr , boddhaus a hapus. Petaech yn dewis anfon eich plentyn i Ysgol Tregarth , rwyf yn gwbl  hyderus  y byddwch wedi gwneud penderfyniad cywir. Edrychaf ymlaen i gwrdd a chi yn fuan ac os oes gennych unrhyw ymholiad neu bryderon, cofiwch gysylltu a mi unrhyw bryd yn yr ysgol.

 

Yn yr adran yma:

 

 

Bookmark and Share

Polisi Preifatrwydd

© 2024 Ysgol Bodfeurig ~ Gwefan gan Delwedd