Ysgol Bodfeurig - Dysgu mewn hapusrwydd
ss-1

Dosbarthiadau

Gair o'r Dosbarth

children

Dydd Gwyl Dewi

Pob blwyddyn bydd y plant yn mwynhau dathlu dydd Gwyl Dewi. Eleni fe benderfynom symyd ein dathliadau o’r ysgol i’r gymuned gan gynnal prynhawn arbennig o dê Cymreig a chân yn y Neuadd Goffa ym Mynydd Llandegai. Gwahoddwyd rhieni ac aelodau o’r gymued i ymuno â ni i ddathlu. Roedd y neuadd yn orlawn a phawb yn sicr wedi cael gwledd o ganu, dawnsio gwerin ac wrth gwrs bara brith a chacennau cri! Diolch i bawb ddaeth i’n cefnogi – rydym yn ffodus iawn o’n ffrindiau yn Ysgol Bodfeurig.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Blwyddyn Newydd Tseiniaidd

Roedd yr ysgol yn llawn bwrlwm pan aethom ati i ddathlu Blwyddyn Newydd Tseiniaidd. Daeth pawb i’r ysgol mewn dillad coch neu dillad Tseiniaidd cyn dysgu am hanes sut cafodd pob blwyddyn ei enwi ar ôl anifail. I ginio bu Anti Anwen ac Anti Dana yn brysur yn paratoi gwledd Tseiniaidd cyn gorffen y dathlu gyda gwasanaeth bendigedig gan ddefnyddio draig Tseiniaidd enfawr!

Parti Oriol Oren

Mae plant dosbarth Idwal wrth eu boddau yn dysgu am Aled Afal a’i ffrindiau. Un o ffrindiau gorau Aled yw Oriol Oren ac bu’r dosbarth yn brysur yn ddiweddar yn trefnu parti penblwydd ar ei gyfer! Coginiodd y plant gacennau bach cyn eu haddurno yn lliwgar. Cafodd pawb o’r dosbarth wahoddiad i’r parti ble buont yn dawnsio i gerddoriaeth Cymraeg, chwarae gemau parti ac wrth gwrs bwyta bwyd parti. Roedd pawb wrth eu boddau yn canu penblwydd hapus i Oriol Oren cyn chwythu’r canhwyllau ar ei gacen arbennig!

Tesco

Fel rhan o’r thema Archfarchnad aeth dosbarth Idwal i Tesco Bangor i ddysgu am fwyd. Cafodd pawb y gyfle i flasu bwydydd iach ac siapio bara. Roedd pawb wedi mwynhau cerdded o amgylch y siop yn ogystal a chael cyfle i fynd i weld y becws ac yr oergell. Diolch yn fawr i Tesco am y croeso.

Ailgylchu

Daeth Gwenllian o adran ailgylchu Cyngor Gwynedd i ymweld a dosbarth Idwal er mwyn trafod mathau gwahanol o ailgylchu. Cafodd y plant cyfle i ddidoli’r nodweddion gwahanol yn y bocsys priodol. Hoffwn ddiolch i Gwenllian am ei ymweliad ac sgwrs gyda’r plant, roedd pawb wedi mwynhau.

Prosiect bwyta’n iach

I barhau â’r gwaith ar fwyd ac archfarchnadoedd aeth plant blwyddyn 2 ati i greu prosiect ei hunain i werthu smwddis i blant yr ysgol. Penderfynwyd ar dri blas ac aethom ati i brynu ffrwythau tra yn ymweld a Tesco. Dyluniodd y plant poster i hysbysebu gwerthiant y smwddis i’w gyrru adref yn ogystal a gweithio allan pris pob un. Roedd y smwddis yn llwyddianus dros ben gyda phawb wedi mwynhau. Roedd plant blwyddyn 2 yn hapus dros ben ar ol cyfri y pres gan sylwi fod na elw o £12. Da iawn chi blantos!

children

Cartwnio!

Mae’n sicr fod y mwyafrif o blant yn hoffi cartŵns felly dychmygwch y cyffro oedd acw pan ddaeth y cartwnydd Huw Aaron i roi gwersi arbennig i ddosbarth Ogwen a Tryfan. Mae Huw yn creu cartŵns yn y cylchgrawn Cymraeg ‘Mellten’ ac fe lwyddodd i ddod a rhai o’r cymeriadau yn fyw o flaen ein llygaid. Mae’n bendant fod ambell gartwnydd dawnus yn yr ysgol ac edrychwn ymlaen i weld mwy o’u gwaith eto yn y dyfodol.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau Catrwnio


Llyr Titus

Roedd dosbarth Ogwen yn ffodus iawn i gael ymweliad gan yr awdur Llyr Titus. Daeth i’r ysgol i sôn am ei waith fel awdur yn ogystal ag i ysbrydoli y plant gyda’u ysgrifennu creadigol. Cafodd y plant lawer o fudd o’r gweithdy a roedd pawb wedi mwynhau clywed Llyr yn darllen rhan o’i waith iddynt. Diolch Llyr am ein ysbrydoli!

plant

Tim Achub Mynydd Dyffryn Ogwen

Y tymor yma mae dosbarth Tryfan yn edrych ar thema ‘Ardal Drychineb’. I ddysgu mwy am ardaloedd sydd wedi gwynebu trychinebau naturiol fe wahoddwyd aelodau o dîm achub mynydd Dyffryn Ogwen. Mae gan Tim a Brian brofiadau lu o helpu mewn trychinebau megis llifogydd ac eira mawr. Roedd yn brofiad gwerth chweil cael gwrando ar eu hanes yn helpu pobl mewn argyfwng yn ogystal a gweld yr offer maent yn ei ddefnyddio. Rydym yn ffodus iawn i gael pobl fel Tim a Brian sy’n gwirfoddoli i helpu eraill. Diolch o galon am eich gwaith ac am roi eich amser i’r ysgol.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau Tim achub mynydd


Radio Ysgol

Mae plant yr ysgol wedi mwynhau bod yn sêr radio yn ddiweddar ar Cymru.FM. Mae Mr Walton wedi bod yn arwain sesiynau radio yn cyflwyno cerddoriaeth Gymraeg newydd i'r plant wrth iddynt ymarfer eu llafaredd. Mae cyfle i wrando ar gynnyrch y plant ac eraill o'r gorffennol ar wefan www.cymru.fm<http://www.cymru.fm> a clicio 'gwrando eto'


plant

Prosiect Cwtch

Mae Ysgol Bodfeurig ac Ysgol Tregarth wedi bod yn ffodus iawn i gael grant trwy’r Cyngor Celfyddydau sy’n ein galluogi i gydweithio gydag artistiaid yn ystod y tymor yma. Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau wrth ddysgu am ddreigiau gyda cyswllt gyda’r flwyddyn newydd Tseiniaidd. Yn dilyn gweithdai gwych gyda Colin Daimond, Ed Holden a Pete Powell fe berfformiodd plant yr ysgol o flaen eu rhieni gan ddefnyddio draig Tseiniaidd enfawr!
Bydd y prosiect nawr yn symyd ymlaen i weld y plant yn creu draig ei hunain sef Cwtch. Bydd Cwtch yno’n gallu teithio i ddysgu am wledydd eraill ac i ddysgu’r plant yna am ein rhan bach ni o Gymru.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau Prosiect Cwtch


plant

Nadolig Bodfeurig

Cafodd pawb yn Ysgol Bodfeurig Nadolig gwerth chweil gyda llawer o hwyl a sbri. Dechreuodd y dathlu gyda cinio arbennig gan Anti Anwen ac Anti Dana!
Yn dilyn y cinio blasus daeth y gwaith caled o ymarfer a pherfformio ein cyngerdd Nadolig. Eleni aethom ar daith bell i Rwsia i gyfarfod Babwshca a’r tri gwr doeth. Dyna wledd a gafwyd yn y Neuadd Goffa wrth i bawb ganu ac actio i ffrindiau a rhieni’r ysgol. Da iawn chi blant am eich gwaith caled a diolch i’r rhieni am eu cefnogaeth.
Ac ar ol yr holl waith caled daeth yr amser i bawb gael eu gwobrwyo gydag ymweliadau cyffrous. Aeth plant y cyfnod sylfaen i weld y dyn ei hun, Sion Corn, yn Pili Palas tra bo dosbarthiadau Tryfan ac Ogwen wedi cael amser gwych yn gweld panto Blodeuwedd yn Pontio. Profiadau gwych i ddiweddu blwyddyn brysur a llwyddianus yn yr ysgol.

Cliciwch ymai weld mwy o luniau Nadolig Bodfeurig


Tylluanod

Fel rhan o’u thema ‘Pan af i gysgu’ bu dosbarth Idwal yn edrych ar y creaduriad sy’n effro pan fyddwn ni’n cysgu. Un o hoff greaduriaid nôs y dosbarth yw’r tylluanod felly credwch fi roedd pawb wedi cyffroi pan ddaeth tylluanod i ymweld â’r ysgol! Daeth tylluanod o bab math a maint o Warchodfa Tylluanod Gogledd Cymru a cafodd pawb gyfle i afael ynddynt a dysgu mwy am sut mae’r warchodfa yn gofalu amdanynt. Casglodd yr ysgol arian tuag at y warchodfa fydd yn eu helpu i barhau â’r gwaith caled.


Wiwerod Coch

Mae ymgyrch ar hyn o bryd i ail-gyflwyno wiwerod coch i ardal Dyffryn Ogwen. Fel rhan o’r ymgyrch yma mae’r ysgol wedi bod yn gweithio gyda Holly – Ceidwad Wiwerod Coch Bangor ac Ynys Môn i wella ein dealltwriaeth am y creaduriaid yma. Cyn y Nadolig daeth Holly i’r ysgol i greu bwydwyr ar gyfer y wiwerod. Bu pawb yn brysur yn casglu poteli ac yna’n eu haddurno yn lliwgar i’w rhoi yn eu gerddi. Mae plant hynaf yr ysgol hefyd wedi mynd ati i lunio lluniau i’w rhoi ar ochor bwydwyr fydd yn cael eu gosod mewn coedwigoedd lleol. Bydd Holly yno’n rhoi camera fideo ynddynt a cawn weld os fydd y wiwerod coch yn dod yno i fwydo. Rydym yn falch o fod yn rhan o’r prosiect cyffrous yma ac yn gobeithio y bydd y niferoedd o wiwerod coch yn yr ardal yn cynyddu.


plant

Cegin Fwd

Beth yw eich hoff fwyd i’w goginio yn y gegin? Cacen? Bisgedi? Ddim yn cegin newydd Bodfeurig – cegin fwd!! Mae’r gegin wedi bod yn boblogaidd iawn ymysg plant yr ysgol ac maent wedi cael oriau o hwyl yn chwarae yn y mwd yn creu pob math o ‘fwydydd’ gwahanol.

 


plant

Geo-Cash

Mae’r ysgol wedi ymrwymo i brosiect Llwybrau Llechi. O dan arweiniad Anita Daimond aeth plant bl 5 a 6 ar antur yn chwilio am Geo-Cashes yn yr ardal leol. Roedd hyn yn cyfle gwych i ddatblygu sgiliau darllen map a mwynhau bod yn eu milltir sgwar.

 


Caerdydd

Cychwyn yn fuan yn y bore oedd hanes blwyddyn 5 a 6 wrth iddynt gychwyn ar daith gyffrous yr holl ffordd i Gaerdydd! Yn ystod yr ymweliad cafwyd cyfle i ymweld â’r Big Pit, Techniquest a’r Cynulliad gan gael y fraint o gyfarfod ein aelod seneddol Sian Gwenllian. Wrth deithio adref cafwyd ymweld â Sain Ffagan.


plant

Gourmet Byd Eang

Mae dosbarth Ogwen wedi teithio i bellafoedd byd trwy gyfrwng eu thema diweddaraf – gourmet byd eang. Trwy’r thema cafodd pawb gyfle i ddysgu am fwydydd gwahanol o wahanol wledydd, milltiroedd bwyd ac sut i ddefnyddio taenlenni i gyfrifo costau mewn bwyty. Uchafbwynt y thema oedd ymweliad â bwyty Eastern Origin ym Mangor gyda pawb yn blasu bwydydd bendigedig.

 


Zoo Lab
Ydych chi’n hoffi creuadriaid bach? Yna mi fuasech wrth eich bodd pan ddaeth Zoo Lab i’r ysgol gyda llawer o greaduriaid o bob lliw a llun. Cawsom gyfle i ddysgu mwy am scorpion, chwilen, cranc meudwy, neidr filtroed, crwban a...mochyn cwta! Roedd gan pawb eu hoff anifail ond yn ben dant y mochyn cwta oedd yr anifail mwyaf poblogaidd.

Cliciwch ymai weld rhagor o luniau Zoo Lab

plant

Pitran Patran

Rydym ni wedi bod ar daith gerdded i edrych ar nodweddion dŵr yn Mynydd Llandygai. Cerddom ar hyd y llwybr bach i fyny’r mynydd. Roedd yn fore niwlog iawn ac roedd yn bwrw glaw ychydig. Gwelsom rhaeadr ac afon yn sisial. Gwelsom Ffynnon Bodfeuirg roedd yn hudolus. Gwelsom Ffynnon Angel a nant yn llifo yn araf. Cerddom dros bont carreg a pren. Roedd yn llithrig iawn. Gwelsom llawer o goed gyda aeron coch arnyn nhw. Clywsom adar yn canu yn swynol.Roedd yn lot fawr o hwyl. Cerddom yn ôl i’r ysgol gyda’n ffrindiau.
Gan Eira a Llyr

Cliciwch yma i weld mwy o luniau Pitran Patran


plant

Cestyll!

Thema dosbarth Tryfan ar hyn o bryd yw Cestyll a Dreigiau. Fel rhan bwysig o’r thema cawsom fynd ar ymweliad i Gestyll Caernarfon a Dolbadarn. Cafodd pawb amser gwych yn dysgu am sut adeiladwyd y cestyll ac sut roeddent yn amddiffyn ei hunain. Ar ôl yr ymweliad aethom ati i greu ein cestyll ein hunain. Pa un hoffech chi fyw ynddo..?

Cliciwch yma i weld mwy o luniau Cestyll


dosbarth idwal

Croeso yn ol i bawb yn Nosbarth Idwal ar ol y gwyliau Haf.

Croeso i'r plant Meithrin ar eu diwrnod cyntaf yn Ysgol Bodfeurig. Braf oedd gweld y Dosbarth Derbyn yn hapus ar eu diwrnod cyntaf llawn yn yr ysgol. Rydym yn erdych ymlaen am flwyddyn llwyddianus ac hapus eto eleni!

Fel rhan o'm uned waith y tymor yma rydym yn dysgu am ddwr. Rydym wedi trefnu Diwrnod Hwyl gyda Dwr Dydd Iau yma (08/09/16) . Byddem yn mynd ar daith gerdded i chwilio am ddwr bore Llun nesaf (12/09/16)

Bydd ymwelydd yn dod o'r Archifdy bore Mercher nesaf (14/9/16), i ddysgu y plant am olchi dillad erstalwm.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau Dosbarth Idwal


dosbarth tryfan

Croeso mawr yn ol i bawb yn nosbarth Tryfan - blwyddyn 3 a 4.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr am flwyddyn brysur a cyfle i ddysgu am lawer o bethau newydd.

Ein thema am yr wythnosau nesaf fydd Cestyll a Dreigiau. Fel rhan o'r thema byddem yn mynd ar ymweliad â Castell Dolbadarn a Chastell Caernarfon i ddysgu mwy am sut cawsant eu hadeiladu ac am eu hanes.


dosbarth tryfan

Croeso mawr yn ol i bawb yn nosbarth Ogwen - blwyddyn 5 a 6.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr am flwyddyn brysur a cyfle i ddysgu am lawer o bethau newydd.

Ein thema am yr hanner tymor nesaf fydd Gourmet Byd Eang. Fel rhan o'r thema byddem yn mynd ar ymweliad i fwyty lleol.


image

Carnifal
Ar ddiwedd y tymor bu dosbarth Tryfan yn dysgu am garnifalau. Gyda’r plant yn gyfrfiol am gynllunio’r gwaith yn naturiol roedd rhaid cynnal carnifal ei hunain! Cafwyd llond trol o hwyl ar ddiwrnod y carnifal wrth i bawb ddod i’r ysgol wedi gwisgo mewn gwisg ffansi a dewiswyd brenin a brenhines y carnifal cyn cael gorymdaith fawr o flaen rhieni a ffrindiau’r ysgol.

Dyma pawb gyda’u mygydau yn barod ar gyfer y carnifal!


image
Ynni Ogwen
Ar ddiwrnod gwlyb iawn ar ddiwedd y tymor, braf oedd cael gwahoddiad gan Ynni Ogwen i weld y safle ar gyfer y cynllun ac i weld y dywarchen gyntaf yn cael ei thorri. Diolch i ddau o Gyngor Eco’r ysgol am ymuno gyda plant eraill y dalgylch ar gyfer yr achlysur arbennig yma.

Ffarwelio a chroesawu
Diwedd y flwyddyn daeth yn amser i ni ffarwelio gyda plant blwyddyn 6 wrth iddynt symyd ymlaen i’r ysgol uwchradd. Pob lwc i chi gyd wrth i chi symyd ymlaen. Roedd hefyd yn amser i ni ffarwelio gyda Miss Price sydd wedi bod yn dysgu yn yr ysgol ers blwyddyn a hanner. Dymunwn y gorau iddi wrth iddi fynd i deithio.
Ar ddechrau blwyddyn newydd hoffwn groesawu y plant newydd sy’n dechrau yn yr ysgol. Gobeithio y byddwch yn hapus iawn yma gyda ni. Croeso hefyd i Mr Andrew Walton sydd yn ymuno â staff dysgu yr ysgol.

Bookmark and Share

Polisi Preifatrwydd

© 2024 Ysgol Bodfeurig ~ Gwefan gan Delwedd