Ysgol Bodfeurig - Dysgu mewn hapusrwydd
ss-1

 

Cwricwlwm Newydd i Gymru

Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy'n newid.

Cwricwlwm Newydd yng Nghymru - Gwybodaeth i Rieni


Cwricwlwm Newydd i Gymru : Trosolwg

Gadewch i ni Gychwyn

Y 4 Diben

Y 4 diben yw'r sail i bopeth y byddwch yn ei ddysgu!
These four purposes will be the foundation of everything you learn!
Mae’n amser cyffrous i ysgolion Cymru. Mae gan bob ysgol y cyfrifoldeb o ysgrifennu cwricwlwm sy’n bersonol iddynt erbyn 2022. Cwricwlwm ysgol ydy cynllun ar gyfer beth fydd plant a phobl ifanc yn ei ddysgu yn yr ysgol. Mae’n dweud: - Beth ddylen nhw ddysgu, sut ddylen nhw ddysgu a’r rhesymau pam ddylen nhw ddysgu. Rydym yn barod yn gweithio tuag at ddatblygu ein cwricwlwm cyffrous yma yn Ysgol Tregarth. Mae yna lawer o agweddau amrywiol i ystyried wrth ddylunio’n cwricwlwm newydd, gweler isod am fwy o wybodaeth.

Y pedwar diben

Pwrpas cwricwlwm yw galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:

  • dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Y meysydd dysgu a phrofiad

  • Rhaid i'r chwe maes dysgu a phrofiad canlynol (Maes/Meysydd) gael eu hadlewyrchu mewn cwricwlwm a fabwysiedir.
  • Y Celfyddydau Mynegiannol.
  • Iechyd a Lles.
  • Y Dyniaethau.
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
  • Mathemateg a Rhifedd.
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Fe fydd sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Chymwysedd digidol yn cael eu haddysgu ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad.

Elfennau gorfodol cwricwlwm

Yn ogystal a’r uchod, bydd y canlynol yn elfennau gorfodol o gwricwlwm.

  • Crefydd, gwerthoedd a moeseg.
  • Addysg cydberthynas a rhywioldeb.
  • Cymraeg.
  • Saesneg.

 

 

 

Bookmark and Share

Polisi Preifatrwydd

© 2024 Ysgol Bodfeurig ~ Gwefan gan Delwedd