Dosbarthiadau

Cartref > Plant > Dosbarthiadau

Idwal

Plant Derbyn i Flwyddyn 2 sydd yn cael eu haddysgu yn nosbarth Idwal, ac maent yma drwy’r dydd. Mae’r plant Meithrin yn ymuno â nhw bob prynhawn.  

Mae’r dosbarth yn un lliwgar ac ysgogol, a hynny o dan arweiniad Susan Owen, athrawes brofiadol iawn sydd a’r disgwyliadau uchaf o bob plentyn yn ei gofal. Yn ogystal, mae Dana Thomas a Ffion Efans yn cynorthwyo yn y dosbarth yn ystod yr wythnos, ac mae pawb yn rhoi o’i gorau i bob plentyn ac yn sicrhau eu bod nhw yn hapus, yn ddiogel ac yn gwneud cynnydd yn ystod eu dyddiau gyda ni yn yr ysgol.

 

Ogwen

Yn nosbarth Ogwen, mae plant blwyddyn 3 i 6 yn cael eu haddysgu i fod yn ddysgwyr gydol oes. Dan arweiniad cadarn Eleri Davies a Ceri Foulkes, a chefnogaeth Iona Phillips, Lauren Jones a Dana Thomas, mae’r disgyblion yn derbyn yr addysg orau bosib.

Wrth adeiladu ar yr hyn maent yn ei ddysgu yn y Cyfnod Sylfaen, mae dosbarth Ogwen yn sicrhau bod pob disgybl yn datblygu ac yn debryn y cyfleoedd a’r profiadau gorau iddyn nhw fel unigolion. Mae pwyslais ar fagu hyder ac annibyniaeth yn y dosbarth yma, sy’n greiddiol i’n gweledigaeth ni yma yn Ysgol Bodfeurig.