Diogelwch
Cartref > Cynlluniau > Diogelwch
Mae defnyddio cyfrifiaduron, mynd ar y we a defnyddio teclynnau fel iPads yn cynnig cyfleodd addysgu gwych i blant. Mae'r rhyngrwyd yn cynnig storfa bron yn ddi-ben-draw o wybodaeth addysgol ddefnyddiol, gellir hefyd defnyddio'r dechnoleg
i ymestyn gwaith creadigol y plant i greu lluniau, fideos, a chreu gwefannau eu hunain. Ac wrth gwrs mae modd eu defnyddio er mwyn adloniant - gwylio fideos, chwarae gemau neu wrando ar gerddoriaeth!
Rydym fel ysgol yn hyrwyddo defnydd technoleg fel rhan greiddiol o addysg y plant, ac mae'n agwedd sy'n dod yn amlycach a phwysicach o flwyddyn i flwyddyn. Ond, yn anffodus, mae'r rhyngrwyd a thechnoleg hefyd yn cynnwys peryglon i blant,
ac felly mae'n hynod bwysig ein bod fel ysgol a rheini neu ofalwyr yn sicrhau bod ein plant yn dysgu sut i ddefnyddio'r dechnoleg hyn yn ddiogel.
Mae PC Andy (un o 18 Swyddog Cyswllt Ysgolion yr Heddlu) yn dod i'r ysgol yn rheolaidd i drafod gwahanol faterion â'r plant, ac meddai fod e-Ddioglewch yn fater hynod bwysig yn ein hysgolion, a cham ddefnydd o'r dechnoleg yn gallu creu
problemau gwirioneddol.
Nodir isod pwyntiau y dylai pob rhiant fod yn ymwybodol ohonynt
- Mae'r plant yn defnyddio'r we a theclynnau technolegol yn yr ysgol yn unol â pholisi e-Ddiogelwch yr ysgol;
- Mae angen i rieni fod yn ymwybodol o sut mae eu plant yn defnyddio technoleg gartref, a'u helpu i fod yn ddiogel;
- Mae Polisi e-Ddiogelwch yr ysgol ar gael i chi ei weld yn yr ysgol ac ar y gwefan hon.
Os oes gennych bryderon ynghylch e-Ddiogelwch cysylltwch â'r Pennaeth.
GWYBODAETH A DEUNYDD DEFNYDDIOL
1. Sut i osod gosodiadau ar y 'router' i atal deunydd annymunol
- BT - How to set up parental controls by BT
- SKY - How to set up parents controls by Sky
- TalkTalk - How to set up parents controls by TalkTalk
- Virgin Media - How to set up parents controls by Virgin Media
2. App defnyddiol i helpu defnydd synhwyrol o declynnau Android ac Apple
- Screentime - Parental control app for Android and iOS
3. Dogfennau defnyddiol
4. Gwefannau defnyddiol
5. Facebook
Hoffwch dudalen NWP Cyber Crime Team / Tîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru ar Facebook
Cofiwch na ddylai 'run o ddisgyblion yr ysgol gael tudalen Facebook, rhaid bod yn 13 cyn ei ddefnyddio