Llywodraethwyr

Cartref > Amdanom Ni > Llywodraethwyr

Diben - Sefydlir y pwyllgor i ddelio gyda materion disgyblu a diswyddo staff, yn unol â gweithdrefnau perthnasol yr ysgol.

 

Aelodau - Ffion Mai Jones, Gwen Spackman, Sue Hearn

Diben - Sefydlir y pwyllgor i ystyried unrhyw apeliadau mewn perthynas â:

  • penderfyniadau’r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff, yn unol â gweithdrefn yr ysgol;
  • apeliadau yn erbyn sancsiynau a osodwyd gan y pennaeth trwy weithdrefnau camymddwyn llai;
  • apeliadau yn erbyn sancsiynau a osodwyd ar Gamau 1 a 2 o’r weithdrefn gallu;
  • apeliadau yn erbyn dethol ar gyfer diswyddo

Aelodau - Catrin Bond Hughes, Trish Bierd

Diben - Mae’r pwyllgor wedi’i sefydlu i adolygu’r defnydd o waharddiadau yn yr ysgol ac ystyried cynrychioliadau mewn perthynas â gwaharddiadau, yn unol â gweithdrefn yr ysgol

 

Aelodau - Ffion Mai Jones, Trish Bierd, Catrin Bond Hughes

Diben - Sefydlir y pwyllgor hwn i adolygu a chytuno ar ddarpariaeth staff, adolygu gweithdrefnau ar gyfer dethol, penodi a rheolaeth perfformiad staff ac adolygu a chytuno ar raglenni hyfforddiant staff.

 

Aelodau - Ffion Mai Jones, Mary Hayes, Catrin Bond Hughes

Diben - Sefydlir y pwyllgor hwn i adolygu cyflogau pob aelod o’r staff, dyfarnu cynyddrannau fel bo’n briodol a’u cynghori o’r canlyniad yn unol â hynny, yn unol â gweithdrefn yr ysgol.

 

Aelodau - Anwen Morris, Catrin Bond Hughes, Trish Bierd

Diben - Sefydlir y pwyllgor hwn i adolygu a chytuno ar gynigion yr ysgol ar gyfer y gyllideb ac argymell y gyllideb ddrafft i’r corff llywodraethu llawn ac i fonitro incwm a gwariant y mae’r llywodraethwyr a’r staff yn gyfrifol amdanyn nhw ac adrodd fel bo angen.

 

Aelodau - Gareth Edwards, Catrin Bond Hughes, Sue Hearn

Diben - Mae’r pwyllgor wedi’i sefydlu i ystyried a gwneud penderfyniadau yn berthynol i gwynion a dderbyniwyd, yn unol â gweithdrefnau cwynion yr ysgol.

 

Aelodau - Ffion Mai Jones, Gwen Spackman, Sue Hearn

Diben - Sefydlir y pwyllgor hwn i oruchwylio materion yn berthynol i’r defnydd o eiddo, tir a chyfleusterau estynedig yr ysgol.

 

Aelodau - Catrin Bond Hughes, Eleri Davies, Anwen Morris

Diben - Sefydlir y pwyllgor hwn i sicrhau bod gan ddisgyblion yr ysgol fynediad i gwricwlwm eang a chytbwys a bod y gofynion statudol yn cael eu diwallu, a monitro perfformiad cyffredinol yr ysgol a’i disgyblion.

 

Aelodau - Catrin Bond Hughes, Sue Hearn, Ffion Mai Jones

Diben - Sefydlir y pwyllgor hwn i edrych ar ac addasu unrhyw bolisiau sydd yn cael ei gweithredu gan yr ysgol er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol.

 

Aelodau - Catrin Bond Hughes, May Hayes, Gwen Spackman

Diben - Sefydlir y pwyllgor hwn i edrych ar flaenoriaethau a materion yn berthynol i lesiant bugeiliol ac ysbrydol staff, disgyblion a chysylltiadau gyda’r gymuned ehangach.

 

Aelodau - Sue Hearn, Gwen Spackman

Diben - Penodir yr arfarnwyr rheolaeth perfformiad i fonitro ac adolygu perfformiad y pennaeth, yn unol â gweithdrefn yr ysgol.

 

Aelodau - Catrin Bond Hughes, Mary Hayes, Ffion Mai Jones