Dysgu mewn Hapusrwydd

Croeso i Ysgol Bodfeurig

Mae’n bleser gennyf eich croesawu i wefan newydd Ysgol Bodfeurig. Wrth i chi bori drwy’r wefan, gobeithiaf y cewch flas ar fywyd yr ysgol a beth sy’n digwydd yma bob dydd.

Yn Ysgol Bodfeurig, ceisiwn greu awyrgylch ddiogel a braf i bawb, ble caiff eich plentyn ei werthfawrogi a’i drin yn deg bob dydd. Rydym yn annog y plant i fod yn aelodau cyfrifol o’r ysgol a’u cymdeithas, ac i dyfu’n bobl ifanc sy’n ystyriol o eraill, o’u bro a’u hamgylchedd. Mae’r ysgol hon yn galon i’r gymuned Gymreig yr ardal, a hyderwn ein bod yn cynnig yr addysg a’r profiadau gorau i’r holl ddisgyblion sydd o dan ein gofal.  Ymfalchïwn yn y berthynas glos sydd rhwng teuluoedd yr ardal a’r ysgol, a diolchwn i chi am bob cydweithrediad a’ch cefnogaeth parhaus i’r ysgol.

Cofiwch, os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach ynglŷn ag unrhyw fater, mae croeso i chi gysylltu â'r ysgol a threfnu cyfarfod gyda mi neu aelod o staff.  

Bydd yma wastad groeso cynnes yn eich disgwyl yma.

Gareth Edwards

Ein Ysgol